Cyfraith Gyflogi
Yn cael ei arwain gan Richard Kember, mae ein tîm cyflogaeth yn gweithredu ar ran cyflogwyr a chyflogeion ill dau, yn amrywio o gyflogeion a chyfarwyddwyr unigol i sefydliadau mawr y sectorau preifat a chyhoeddus.
Mae gan aelodau brofiad eang ymhob agwedd o gyfraith gyflogaeth gan gynnwys diswyddo annheg ac anghywir, dileu swyddi, gwahaniaethu, tâl cyfartal, trosglwyddo mentrau, hawliadau amser gweithio, rhwystro masnachu a thorri cyfrinachedd. Rydym yn darparu gwasanaethau cynghorol llawn ac adfocatiaeth mewn Tribwnlysoedd Cyflogaeth ac mewn llysoedd apeliadol.
Mae aelodau sy’n ymarfer y gyfraith gyflogaeth yn cynnwys: