Anafiadau Corfforol ac Esgeuluster Clinigol
Yn gweithredu ar ran hawlwyr a diffinyddion ill dau, rhestrir ein tîm anafiadau personol ac esgeulustod clinigol yn uchel yn gyson gan y 500 Cyfreithiol a Siambrau DU.
Mae gan y tîm brofiad eang ynghylch trafod achosion i unigolion, undebau llafur mawr, yswirwyr a chyflogwyr mawr yr un fath.
Mae’r cwmpas o waith a ymgymerir ag ef gan y tîm yn cynnwys hawliadau ynglŷn â phob math o anafiadau, o anafiadau atchwipio bach i anafiadau trychinebus i’r pen ac i’r cefn, ai wedi’u hachosi mewn damweiniau traffig ffordd neu fel arall oherwydd esgeulustod rhywun arall. Mae ein haelodau’n delio’n rheolaidd â hawliadau ynglŷn â chlefydau diwydiannol, gyfreithiad a chwestau ynghylch damweiniau angheuol, salwch seiciatrig sy’n codi o drawma a phwysau yn y gwaith, cyfrifoldeb cyflogwyr, cyfrifoldeb deiliaid a materion ynghylch cyfrifoldeb cynnyrch. Hefyd rydym yn cwmpasu pob agwedd ar hawliadau esgeulustod clinigol gan gynnwys esgeulustod meddygol a deintyddol.
Darperir cynrychiolaeth ar bob lefel o brofiad a hynafedd yn y llysoedd sifil, mewn llysoedd y crwner ac o flaen yr Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol a thribiwnlysoedd eraill. Hefyd mae aelodau’r tîm yn derbyn cyfarwyddiadau mewn materion iechyd a diogelwch yn y llysoedd troseddol.
Mae aelodau sy’n ymarfer mewn anafiadau personol ac esgeulustod clinigol yn cynnwys:
|