Blwyddyn Galw: 1985
Clerc: Michael Lieberman
Mae Owen yn arbenigo mewn anafiadau personol, cyfraith gontract yn cynnwys anghydfodau partneriaeth, cyfraith tir, landlord a thenant a chyflogaeth.
Mae Owen yn trafod achosion o anafiadau personol ar ran hawlwyr a diffynyddion ill dau. Yn ychwanegol i achosion traffig ffordd mae ganddo brofiad neilltuol o ddamweiniau sy’n perthyn i gyflogaeth, o achosion sy’n cynnwys byddardod ac o gyflyrau sy’n perthyn i asbestos.
Mae ei bractis mewn cyfraith tir yn cynnwys landlord a thenant a thai ac mae’n ymgymryd â chryn dipyn o waith contract yn cynnwys adeiladu a chodi. Hefyd mae’n delio â chamweddau.
Mae Owen yn cynrychioli hawlwyr a gwrthapelwyr ill dau’n rheolaidd â phroblemau cyflogaeth ac mae’n meddu ar brofiad eang ynghylch achosion o wahaniaethu honedig ar sail anabledd, rhyw ac oedran.
Mae achosion nodedig diweddar yn cynnwys Keir v Morrison Supermarkets 2010 ble roedd yn llwyddiannus yn y Llys Apêl wrth gynnal iawndal i’r hawliwr a ddioddefodd llosgiadau nwy hylifedig wrth lenwi car â nwy petrolewm. Hefyd ymgymerodd â threial tri diwrnod mewn anghydfod partneriaeth morol (Fisher Marine v Amethyst Marine 2010).
Yn Gymro Cymraeg, mae Owen wedi trafod achosion sifil, troseddol a chyflogaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n ymgymryd â gwaith cytundeb ffi amodol.
Addysgwyd Owen yn Ysgol Gyfun Rhydfelen, Pontypridd cyn symud ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, Brifysgol Caergrawnt ac Ysgol y Gyfraith Inns of Court. Hefyd mae’n ddyfarnwr cymwysedig ag Undeb Rygbi Cymru.