Blwyddyn Galw: 2008
Clerc: James Watson / Lee Fifield
Wedi’i addysgu ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn gyn-swyddog yn y Fyddin, mae gan Gareth bractis cyfraith gyffredin prysur ac mae’n ymddangos yn rheolaidd yn Llysoedd Sirol, Llysoedd y Goron a Llysoedd Ynadon De Cymru a Gorllewin Lloegr.
Mae gan Gareth brofiad eang o bractis teulu gan gynnwys ceisiadau a gwaharddebau plant preifat, geisiadau cyfraith gyhoeddus a llareiddiad ategol. Yn ei bractis troseddol, mae Gareth wedi ymgymryd ag amrywiaeth o gyfarwyddiadau yn Llys y Goron, yn cynrychioli’r Goron a diffynydion mewn apeliadau o’r Llys Ynadon, draddodebau i gael dedfryd a materion treial. Hefyd mae Gareth yn trafod amrywiaeth o waith sifil gan gynnwys treialon hawliadau bach, materion tai a chynrychiolaeth mewn cwestau’r Crwner.
Yn ystod ei gyfnod ym Myddin Prydain, tra oedd yn swyddog troedfilwyr gyda’r Cymry Brenhinol, cynrychiolodd Gareth filwyr mewn achosion disgyblaethol amrywiol ac mae ganddo ddiddordeb mewn ehangu’i bractis i gynnwys pob agwedd ar gyfraith filwrol a Llysoedd Milwrol.
Mae Gareth yn fargyfreithiwr uchel ei barch sy’n cymryd yr amser i sicrhau dealltwriaeth ei gleient. Mae’n ymgymryd â rhywfaint o waith cytundeb ffi amodol.