Blwyddyn Galw: 1993
Clerk: Michael Lieberman
Ymunodd Gareth â Siambrau 9 Park Place yn 2003, a bellach, mae’n arbenigo mewn gwaith siawnsri mewn achosion o anafiadau personol, ble bydd yn ymgymryd â rhai achosion ffi amodol. Caiff ei gymeradwyo am ei waith ym maes eiddo yn y Legal 500 a Chambers UK.
Mae gan Gareth enw da yn sgil ei ddull medrus, ei ymchwil diwyd a’i ddyfalbarhad wrth geisio datrys achosion ei gleientiaid. Mae ei achosion arwyddocaol diweddar yn cynnwys Warren Hartnell Marshall v Lillian Pearl Marshal (1998) CA (Beldam LJ) Ltl 810 (cais yn ymwneud ag olyniaeth oedd yn cynnwys cytundeb cyfrinachol a gafwyd i fod yn groes i bolisi cyhoeddus) ac mae achosion mwy diweddar wedi cynnwys achos amlwg o ddifrïo yn yr Uchel Lys yn ymwneud â’r defnydd o “Twitter” gan ddarpar aelod o gyngor yn ystod etholiad lleol, yn ogystal â hawliau gwrthgefn dros dir, hawliau tramgwydd, cywiriadau (teitl ewyllysiau a thir) ac anghydfodau yn ymwneud â phrydlesi masnachol.
Mae Gareth yn aelod o Gymdeithas Arbenigol y Bar yng Nghymru a Chymdeithas Cyfraith Masnach Cymru, a bydd yn cyflwyno seminarau a hyfforddiant yn rheolaidd i gyfreithwyr ar Gylchdaith Cymru a Chaer.
Addysgwyd Gareth yn Ysgol Uwchradd Caerdydd, ac yna astudiodd ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifysgol Aberystwyth ac Ysgol y Bar yn Ysgol y Gyfraith Inns of Court, High Holborn.