Owen Thomas

Owen Thomas

Blwyddyn Galw i’r Bar: 1994
Clerc: Lesley Haikney

Bydd Owen Thomas yn ymgymryd ag achosion sy’n ymwneud â phob agwedd o gyfraith teulu.

Mae ei achosion nodedig diweddar yn y llys apêl, yr uchel lys a’r llys sirol wedi cynnwys honiadau o lofruddiaeth, camdriniaeth rywiol, anafiadau annamweiniol (yn cynnwys anafiadau i’r pen), llosgiadau a niwed emosiynol difrifol, yn cynnwys achosion y rhoddodd plant dystiolaeth ynddynt (fel dioddefwyr ac achoswyr trosedd). Bydd yn ymddangos yn rheolaidd mewn achosion pan gaiff un neu fwy o’r partïon eu cynrychioli gan sidanwyr, a bydd yn ymddangos yn rheolaidd yn eu herbyn heb arweinydd.

Mae Owen yn siarad Cymraeg yn rhugl a bydd yn ymgymryd ag achosion trwy gyfrwng y Gymraeg yn rheolaidd, a chafodd ei restru ymhlith y rheng gyntaf o gwnsleriaid iau blaenllaw ym maes cyfraith teulu ar gylchdaith Cymru gan Chambers and Partners UK am nifer o flynyddoedd. Yn ddiweddar, cafodd ei ddisgrifio fel rhywun sy’n "ddewis da ar gyfer plant", sy’n meddu ar “farn gadarn a dull hyfryd o ymdrin â’i gleientiaid" a chafodd ei gymeradwyo eleni fel "ymladdwr sydd â dawn areithio go iawn." Mae Owen hefyd wedi’i gymeradwyo gan gyfreithwyr sy’n ei gyfarwyddo fel rhywun "trylwyr, synhwyrol a chymwys". Mae’r Legal 500 yn ei ddisgrifio fel "cyfreithiwr cyfraith teulu a phriodasol rhagorol, sydd â phrofiad o waith ymddiriedolaeth a phrofiant ".

Addysgwyd Owen yn Ysgol Gyfun y Strade, Llanelli, ac yna astudiodd yn gyfraith yng Ngholeg Wadham, Rhydychen, cyn mynd i Ysgol y Gyfraith Ysbytai’r Brawdlys, Llundain.