Owen Thomas Q.C.

Owen Thomas Q.C.

Blwyddyn Galw: 1994
Clerc: Lesley Haikney

Owen Thomas yw pennaeth y tîm teulu ac mae’n ymgymryd achosion sy’n ymwneud â phob agwedd o gyfraith teulu.

Mae ei achosion nodedig diweddar yn y Llys apêl, yr Uchel Lys a’r Llys Sirol wedi cynnwys honiadau o lofruddiaeth, camdriniaeth rywiol, anafiadau annamweiniol (yn cynnwys anafiadau i’r pen), llosgiadau a niwed emosiynol difrifol, yn cynnwys achosion y rhoddodd plant dystiolaeth ynddynt (fel dioddefwyr ac achoswyr trosedd). Bydd yn ymddangos yn rheolaidd mewn achosion pan gaiff un neu fwy o’r partïon eu cynrychioli gan sidanwyr, a bydd yn ymddangos yn rheolaidd yn eu herbyn heb arweinydd.

Mae'n ymddangos yn rheolaidd mewn achosion lle mae un neu fwy o'r partïon yn cael eu cynrychioli gan sidanwyr, ac iddo ef ei hun i ymddangos heb arweinydd.

"Ar ei ffordd i fod yn sidanwr" yn ôl y Legal 500, Mae Owen yn cael ei gyfarwyddo yn aml mewn achosion o drais difrifol neu gamdriniaeth. Cafodd ei ddisgrifio yn y rhifyn blaenorol fel "cyfreithiwr teulu a phriodasol ardderchog."

Mae Owen yn siarad Cymraeg yn rhugl a bydd yn ymgymryd ag achosion trwy gyfrwng y Gymraeg yn rheolaidd, a chafodd ei restru ymhlith y rheng gyntaf o gwnsleriaid iau blaenllaw ym maes cyfraith teulu ar gylchdaith Cymru gan Chambers and Partners UK am nifer o flynyddoedd. Yn ddiweddar, cafodd ei ddisgrifio fel rhywun sy’n "ddewis da ar gyfer plant", sy’n meddu ar “farn gadarn a dull hyfryd o ymdrin â’i gleientiaid" a chafodd ei gymeradwyo eleni fel "ymladdwr sydd â dawn areithio go iawn." Mae Owen hefyd wedi’i gymeradwyo gan gyfreithwyr sy’n ei gyfarwyddo fel rhywun "trylwyr, synhwyrol a chymwys". Mae’r Legal 500 yn ei ddisgrifio fel "cyfreithiwr cyfraith teulu a phriodasol rhagorol, sydd â phrofiad o waith ymddiriedolaeth a phrofiant ".

Addysgwyd Owen yn Ysgol Gyfun y Strade, Llanelli, ac yna astudiodd yn gyfraith yng Ngholeg Wadham, Rhydychen, cyn mynd i Ysgol y Gyfraith Ysbytai’r Brawdlys, Llundain.