Recriwtio
Rydym â diddordeb drwy’r amser mewn clywed gan ymarferwyr sefydlog a allai fod â diddordeb mewn dod yn aelod o Siambrau 9 Plas y Parc. Dylech wneud cais mewn ysgrifen i’n Pennaeth Siambrau, Gregg Taylor C.F. Ymdrinnir â phob cais yn hollol gyfrinachol.
Fel arfer rydym yn cynnig dau dymor prawf bob blwyddyn, yn cychwyn yn hwyr ym mis Awst neu’n gynnar ym mis Medi a hefyd rydym yn cynnig tymhorau prawf bach nas ariannir yn achlysurol. Os gwelwch yn dda nodwch nad ydym yn rhan o OLPAS felly dylid gwneud ceisiadau am dymor prawf trwy gyfrwng llythyr cais a CV cyfredol, wedi’i gyfeirio at Gwydion Hughes, Ysgrifennydd i’r Pwyllgor Tenantiaeth a Thymhorau Prawf, 9 Plas y Parc, Caerdydd CF10 3DP, i’w derbyn erbyn Mai 31ain yn y flwyddyn cyn y flwyddyn y ceisir am dymor prawf ynddi.
Mae gwybodaeth bellach ar ein polisïau a’n gweithdrefnau recriwtio ar gyfer tymhorau prawf ar gael trwy lawrlwytho’r dogfennau hyn yma. Dolen i pdf polisïau recriwtio ar y wefan gyfredol.
