Amdanom Ni
Fel Siambrau mentrus ‘Marc Ansawdd’, rydym yn falch o’n hanes chwe deg mlynedd yng nghanol dinas Caerdydd a’n gwybodaeth arbenigol amlddisgyblaethol.
Yn sefydlog wrth galon cymuned gyfreithiol Cymru, ein haelodau ni yw’r hoff ddewis cwnsler rheolaidd ar gyfer cwmnïau’r gyfraith ac awdurdodau lleol ill dau. Yn wir, rydym wedi gweithredu mewn llawer o’r achosion proffil uchaf ym meysydd y gyfraith droseddol, sifil, deuluol a chyflogaeth.
Yn cyflawni gwasanaeth o’r safon uchaf yn gyson o un pen i’r llall, rydym yn falch o’n henw da a gweithiwn yn galed i ddarparu’r cyngor a’r adfocatiaeth gyfreithiol orau sydd ar gael. Cefnogir ein bargyfreithwyr gan dîm gwych o glercod profedig sy’n adnabyddus hefyd am eu hagwedd broffesiynol a gwybodus.
Rydym yma i’ch helpu felly galwch ni ar 029 2038 2731 os gwelwch yn dda er mwyn siarad ag un o’r tîm.
