Gweinyddol
Mae aelodau ein tîm cyfraith gyhoeddus yn ymddangos yn rheolaidd mewn achosion sy’n cynnwys cyfraith weinyddol, amgylcheddol a chynllunio yng Nghymru ac yn Lloegr.
Rydym yn cynrychioli hawlwyr a diffynyddion, gan gynnwys adrannau llywodraeth canolog a datganoledig, awdurdodau lleol ar bob lefel, yn ogystal ag awdurdodau rheoleiddio.
 phrofiad eang wrth ddelio â materion datganoledig, rydym wedi bod yn rheng flaen datblygiadau cyfreithiol yng Nghymru. Yn wir, mae aelodau wedi cadeirio ac wedi cyflwyno darlithoedd i’r proffesiwn cyfreithiol ac i swyddogion cyhoeddus ill dau, ar amrywiaeth eang o destunau cyfraith gyhoeddus gan gynnwys erlyniadau awdurdodau lleol, materion y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a materion ynghylch y Ddeddf Fenter 2002 a Deddfau Llywodraeth Cymru.
Mae aelodau’r Siambrau sy’n ymarfer yn y maes hwn ar hyn o bryd yn cynnwys: