Blwyddyn Galw: 2011
Clerc: Michael Lieberman
Ymunodd Rhys gyda’r siambrau ar ôl cwblhau tymor prawf yn llwyddiannus. Mae wedi datblygu practis cyfraith gyffredin prysur ac yn derbyn cyfarwyddiadau ym mhob un o feysydd disgyblaeth y siambrau.
Mae Rhys wedi ymddangos mewn ystod eang o achosion troseddol ac mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn troseddau rheoleiddio. Mae wedi amddiffyn mewn Llysoedd Ieuenctid, yr Ynadon a’r Goron, gan gynnwys ymddangos mewn apeliadau a ymleddir yn erbyn dedfryd ac argyhoeddiad. Mae wedi erlyn ar ran nifer o asiantaethau megis Gwasanaeth Erlyn y Goron, Awdurdodau Lleol a'r Gwasanaeth Prawf.
Mae ei bractis teulu yn cynnwys ceisiadau plant preifat a gwaharddebau, gan ymddangos yn Llys Achosion Teuluol a'r Llys Sirol. Mae gan Rhys brofiad o ddeisebau herio ysgariad ac cheisiadau am atebion ariannol. Yn ystod tymor prawf Rhys ennillodd brofiad sylweddol o achosion gofal cyfraith gyhoeddus ac mae'n awyddus i ddatblygu ei bractis ymhellach ym mhob maes o gyfraith teulu.
O fewn ei bractis sifil, mae wedi cynrychioli'r ddwy ochr, yr Hawlwyr a’r Diffynyddion mewn hawliadau bach a gwrandawiadau trac cyflym. Mae Rhys yn barod i ddrafftio a chynghori ar atebolrwydd a chwantwm yn ôl y gofyn. Mae'n ymgymryd â gwaith ffi amodol.
Mae Rhys hefyd yn datblygu profiad ym mhob agwedd o gyfraith cyflogaeth ac mae hefyd wedi ymddangos mewn achosion Lloches a Mewnfudo yn y Tribiwnlys.
Yn siaradwr Cymraeg, addysgwyd Rhys yn Ysgol Gyfun Aberaeron. Astudiodd y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Caerdydd, lle aeth ymlaen i wneud Cwrs Hyfforddiant Proffesiynol y Bar yn Ysgol y Gyfraith Caerdydd.
Roedd Rhys yn ddisgybl i Richard Miller (teulu) a Leighton Hughes (troseddau).