Blwyddyn Galw: 2001
Clerc: James Watson / Lee Fifield
Mae Michael yn aelod o Gylchdaith Cymru a Chaer sy’n arbenigo ymhob agwedd o drosedd, gan gynrychioli erlynyddion a diffynyddion fel ei gilydd.
Mae Michael wedi ymgymryd â nifer helaeth o achosion fel cwnsler iau dan gyfarwyddyd Uned Gwaith Achosion Cymhleth Gwasanaeth Erlyn y Goron, yn cynnwys Regina v Timothy Nikolai am dwyll cyllid ceir, ac Ymgyrchoedd Panama Canal, Clinch, Firkin, Stockport a Hallin Fell oedd yn ymwneud â chynllwynion cyffuriau rheoledig dosbarth A. Yn sgil hyn, mae ganddo brofiad sylweddol ym meysydd Enillion Troseddau ac Imiwnedd/Datgeliad Diddordeb Cyhoeddus. Bydd Michael hefyd yn ymddangos yng ngwrandawiadau’r Bwrdd Parôl.
Mae rhai o achosion diweddaraf Michael wedi cynnwys cynrychioli un o bedwar diffynnydd oedd yn gysylltiedig â lladrad arfog â gynnau, a chynrychioli un o dri diffynnydd a blediodd yn euog i gyfres o fyrgleriaethau tai, yn cynnwys un achos o fyrgleriaeth gwaethygedig pan ymosodwyd ar berchennog tŷ a’i glymu. Fe wnaeth Michael erlyn hefyd yn achos heddwas a gyhuddwyd o yrru’n beryglus tra’r oedd ar ddyletswydd, a gweithredu fel cwnsler iau datgelu ar ran y Goron, mewn achos hanesyddol o lofruddiaeth.
Addysgwyd Michael yn Ysgol Gyfun Brynteg, Pen-y-bont ar Ogwr, ac yna astudiodd ym Mhrifysgol Southampton ac Ysgol y Gyfraith, Caerdydd.