Blwyddyn Galw: 2003
Clerc: James Watson / Lee Fifield
Yn aelod o Gymdeithas Cyfraith y Teulu, mae Kate yn ymarfer mewn cyfraith teulu’n unig â’r rhan fwyaf o’i gwaith yn cynnwys materion gofal cyfraith gyhoeddus ac anghydfodau cysylltu a phreswylio cyfraith breifat.
Mae gan Kate agwedd sensitif ond gadarn sy’n ei gwneud yn ffefryn sicr ag awdurdodau lleol a rhieni ill dau. Yn aml mae’n cynrychioli rhieni mewn achosion cyfraith gyhoeddus ac mae’n trafod anghydfodau preswylio a chysylltu mewn achosion cyfraith breifat. Hefyd mae’n cynrychioli awdurdodau lleol a gwarcheidwaid mewn achosion cyfraith gyhoeddus ac mae’n ymgymryd ag ychydig o waith llareiddiad ategol a ariannir yn breifat.
Mae rhai o achosion nodedig diweddaraf Kate yn cynnwys ymgysylltu â phenderfyniad gwrandawiad cyntaf un o’r achosion a aeth ymlaen i ddod yn un o’r prif awdurdodau ar y dewis rhwng gwarchodaeth arbennig a mabwysiadu. Hefyd cynrychiolodd warcheidwad o flaen Prif Gofrestrfa Adran Deulu’r Uchel Lys mewn achos a oedd yn cynnwys symud plentyn o’r awdurdodaeth i Ffrainc. Roedd yr achos yn cynnwys cydadwaith a gwrthdaro rhwng Confensiwn Yr Hag a Rheoliadau Brwsel (II) R.
Addysgwyd Kate yn Ysgol Gyfun Rhisga ac yng Ngholeg Addysg Bellach Gwent cyn symud ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Rhydychen a Phrifysgol Caerdydd.