Blwyddyn Galw: 1989
Clerc: Nigel East
Mae gan Ieuan brofiad helaeth o ymgyfreitha ym maes trosedd, ac mae’n arbenigo mewn cyfraith droseddol.
Mae gwaith Ieuan yn cynnwys troseddau rhyw difrifol sy’n ymwneud â phlant sy’n dystion, achosion cymhleth o anonestrwydd sy’n ymwneud â thor-ymddiriedaeth, honiadau o gynllwynio, troseddau Cyffuriau Dosbarth A, a gweithredoedd treisiol difrifol. Mae rhai o’i achosion a fu mewn adroddiadau yn ddiweddar yn cynnwys Jones v DPP (2004) RIR 20 Cyfeirnodau’r Twrnai Cyffredinol rhifau 37 i 40 (2004) a R v Jones ac eraill (2007) IWLR7. Cafodd Ieuan gyfarwyddiadau ar ran yr erlyniaeth yn achos amlwg Carl Whant hefyd.
Mae gan Ieuan sgiliau cyfathrebu rhagorol a barn gadarn, a bu gynt yn ddarlithydd yn y gyfraith yn Sefydliad Addysg Uwch Gorllewin Morgannwg, Prifysgol Cymru Caerdydd, Prifysgol Newcastle-upon-Tyne a Phrifysgol Morgannwg. Bellach, mae’n un o Ymddiriedolwyr Clwb Athletau'r Barri a’r Fro.
Addysgwyd Ieuan yn Ysgol Trefynwy, ac yna, astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth yn y lle cyntaf, ac yn ddiweddarach ym Mhrifysgol Hull, ble cafodd radd Meistr mewn Troseddeg.