Blwyddyn Galw: 1976
Clerc: Nigel East
Ymunodd Hilary Roberts a 9 Park Place ym mis Mehefin 2012 o Temple Chambers, Caerdydd, lle'r oedd yn Bennaeth y Siambrau. Cyn hynny roedd yn Bennaeth y Siambrau yn Siambrau Casnewydd cyn yr unwyd gyda 32 Park Place yn 1999 i ffurfio Temple Chambers.
Yn aelod o Gymdeithas y Bar ar Drosedd, mae Hilary wedi bod yn ymarferydd cyfraith droseddol arbenigol yn yr ugain mlynedd diwethaf. Mae'n Erlynydd y Goron gradd 4 hefyd.
Mae ei achosion cynrychioliadol yn cynnwys Cyfeirnod Twrnai Cyffredinol (Rhif 152 o 2002) [2003] EWCA Crim 996; [2003] 2 Cr App R 18; [2004] 1 Cr App R (S) 1: canllawiau dedfrydu am y drosedd o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus a gyrru diofal pan dan ddylanwad diod neu gyffuriau. Achos nodedig arall yn cynnwys R v L, R v J (Dedfryd Gohiriedig) [1999] Crim LR 236: gorchymyn i ohirio symiau dedfryd i gael ei apelio neu ei gyfeirio at y Llys Apêl gan y Twrnai Cyffredinol.
Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth cyn sefyll ei arholiadau terfynol i’r Bar yng Ngholeg y Gyfraith, Llundain.