Ian Murphy KC
Gyda thristwch dwys mae Siambrau yn cyhoeddi marwolaeth disymwyth Ian Murphy, CB.
Bu Ian yn aelod o Siambrau am hanner canrif.
Yn gyntaf yn fargyfreithiwr ieuanc disglair a maes o law yn sidanwr blaenllaw yma yng Nghymru a Chaer a thu hwnt i gyffiniau‘r Gylchdaith.
Fel rhan o’i gyfraniad cyfoethog I Siambrau, bu’n bennaeth hirben a doeth arnom am ddeng mlynedd.
Wedi ei ymddeoliad fel bargyfreithiwr, para yn ffyddlon i Siambrau wnaeth Ian a chawsom ei gefnogaeth diffael drwy’r blynyddoedd.
Bydd y golled yn ddirfawr ar ei ol.
Danfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at Penny, ei wraig annwyl, ac at ei blant a’r wyrion.