9 Park Place yn Cynnal Seminar Tîm Teulu

07 MEHEFIN 2013

Ar ddydd Llun 17 Mehefin, mae Siambrau 9 Park Place a Lextox yn cyflwyno seminar ar brofi am gyffuriau ac alcohol. Bydd David Gareth Evans o siambrau 9 Park Place yn siarad am y Fframwaith Cyfreithiol i brofi am gyffuriau ac alcohol, yna’n siarad bydd Liam Feasey o Lextox am arfer gorau a phrofion priodol ar gyfer canfod camddefnyddio sylweddau gan rieni.

Mae'r seminar yn cael ei gynnal yng Ngwesty'r Park Plaza yn Heol y Brodyr Llwydion, Caerdydd. Mae’r derbyniad am  4.30yh, gyda’r seminar yn cychwyn gyda David Gareth Evans am 5yh, wedi'i ddilyn gan Liam Feasey am 6yh, gan orffen gyda lluniaeth am 7yh. Mae'r seminar yn cario 2 bwynt CPD (CPD cyfeirnod CKH / NPPL).

Y gost yw £ 30; o hyn bydd rhodd yn cael ei wneud i Living Room Cardiff, sefydliad sy'n integreiddio cymorth proffesiynol gyda chymorth seiliedig ar gymheiriaid mewn amgylchedd sydd wedi’i gynllunio'n ofalus i sicrhau adferiad tymor hir ar gyfer y rhai sy'n rheoli problemau sy'n gysylltiedig ac alcohol a / neu gyffuriau neu ymddygiad sy'n niweidiol.

Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth neu i archebu eich lle.