Tom Roberts yn ymuno â Siambrau

03 MAI 2013

Mae’r Siambrau yn falch o gyhoeddi bod Tom Roberts wedi ymuno gyda’r siambrau ar gwblhau ei dymor prawf yn llwyddiannus. Tom yw ein tenant diweddaraf ac mi fydd yn derbyn cyfarwyddiadau mewn achosion addas ar draws awdurdodaethau sifil, troseddol a theulu.

Cafodd Tom, sy'n wreiddiol o Gaerdydd, ei alw i'r bar yn 2011. Cafodd ei addysg yn Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf, Caerdydd a Phrifysgol Llundain ac yna y Cwrs Galwedigaethol y Bar yn Ysgol y Gyfraith Caerdydd. I gael rhagor o wybodaeth am Tom yna edrychwch ar ei broffil.

Mae 9 Park Place yn un o'r setiau mwyaf o siambrau bargyfreithwyr yng Nghymru gyda rhyw 60 o aelodau, y mae llawer ohonynt yn cael eu hargymell gan gyfnodolion cyfreithiol ar draws ein timau cyfraith sifil a siawnsri, troseddol a rheoleiddio, cyflogaeth a theulu.