Siambrau 9 Plas Y Parc yn amddiffyn cyngor Caerdydd yn llwyddiannus mewn adolygiad barnwrol

23 RHAGFYR 2011

Mae’r Uchel Lys wedi cynnal penderfyniad i aildrefnu ysgolion yn ardal yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd a welodd 2 aelod o Siambrau 9 Plas y Parc yn cynrychioli Cyngor Caerdydd yn llwyddiannus yn nhrafodion yr adolygiad barnwrol.

Rhoddwyd caniatâd i ymgyrchwyr o Grŵp Gweithredu Achub yr Eglwys Newydd (SENAG) ym mis Gorffennaf i herio penderfyniad Llywodraeth Cymru i ganiatáu cynlluniau Cyngor Caerdydd ar gyfer ailddatblygu darpariaeth gynradd yn yr Eglwys Newydd i fynd ymlaen. Buont yn honni bod polisi’r Cyngor yn hyn o beth yn anghyfreithlon a gwahaniaethol.

Bydd yr aildrefnu’n golygu y bydd Ysgolion Cynradd cyfrwng Saesneg Eglwys Wen ac Eglwys Newydd yn cau ac y bydd ysgol gynradd cyfrwng Saesneg newydd â meithrinfa’n cymryd eu lle ar y safle a rennir ar hyn o bryd rhwng Eglwys Wen ac Ysgol Melin Gruffydd, o fis Medi 2012.

Bydd Ysgol Gynradd Melin Gruffydd yn trosglwyddo i’r safle a ddefnyddir ar hyn o bryd gan Ysgol Gynradd Eglwys Newydd fel ysgol gyfrwng Cymraeg â mynediad dau-ddosbarth â meithrinfa.

Ond, yn dilyn sylwadau ar ran Cyngor Caerdydd gan Winston Roddick CF a Phillip Morris, mae’r Uchel Lys yn awr wedi cynnal penderfyniad y Gweinidog Addysg Leighton Andrews, yn yr hyn a ddisgrifiwyd gan y barnwr fel “achos anodd a heriol”. Hefyd cymeradwywyd polisi’r Cyngor yn gadarn gan y Llys, a benderfynnodd nad oedd yn anghyfreithlon na gwahaniaethol mewn unrhyw ffordd.

Meddai Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd ill dau eu bod yn fodlon â’r dyfarniad.

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: “Rydym yn hapus bod y barnwr wedi penderfynu nad oes rheswm i ddileu penderfyniad gweinidog Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â’r Eglwys Newydd.”

“Mae’r dyfarniad yn awr yn golygu y gallwn barhau i symud ymlaen â’r cynigion ar gyfer aildrefnu ysgolion yn yr Eglwys Newydd a sicrhau y gallwn greu’r system addysg orau oll i’n disgyblion i gyd.”

Am y dyfarniad llawn cliciwch yma:

http://www.bailii.org/ew/cases/EWHC/Admin/2011/3416.html