Cerys Walters

Cerys Walters

Blwyddyn Galw: 2009
Clerc: Michael Lieberman

Yn fargyfreithwraig sy’n canolbwyntio’n uchel ac sy’n benderfynol, mae Cerys yn ymarfer mewn cyfraith gyffredin, sianwsri a masnachol. Hefyd mae’n trafod materion troseddol a theuluol.

Mae ei gwaith yn cynnwys pob agwedd ar gyfraith gyffredin gyffredinol gan gynnwys anafiadau personol, landlord a thenant/tai, anghydfodau contractiol, cyflogaeth ac ewyllysau, ymddiriedolaethau a phrofiant. Hefyd mae ganddi brofiad ynghylch ymddangos o flaen tribiwnlysoedd a phaneli amrywiol gan gynnwys y Tribiwnlys Apêl Budd-daliadau Anabledd a Phanel Disgyblaethol y Cyngor Meithrinfa a Bydwreigiaeth. Yn ymddangos dros yr Erlyniaeth a’r Amddiffyniaeth ill dau,mae Cerys hefyd yn trafod pob agwedd ar gyfraith droseddol a thramgwyddau rheoleiddiol tra bod ei gwaith teuluol yn cynnwys gwaith priodasol, llareiddiad ategol, gwaharddebau a gwaith plant cyfraith breifat.

 hanes academaidd rhagorol, mae Cerys yn aelod o Gymdeithas Anrhydeddus Lincoln’s Inn a Chymdeithas Yr Arglwydd Denning. Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Gyfun Blaengwawr cyn symud ymlaen i astudio’r gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn ystod ei hastudiaethau enillodd Ysgoloriaeth Lord Denning a Gwobr Buchanan am Berfformiad Eithriadol, o Gymdeithas Anrhydeddus y Lincoln Inn, yn ogystal â derbyn  Gwobr Cylchdaith Cymru a Chaer am y Perfformiad Gorau ar y BVC ym Mhrifysgol Caerdydd (2008 - 09) a Gwobr Temple Chambers ar gyfer y Perfformiad Gorau mewn Eiriolaeth Sifil.Yn aelod fyfyriwr o’r Gymdeithas Anrhydeddus y Lincoln Inn, Cerys raddiodd uchaf o’r rhai cafodd ei galw ar 28 Gorffennaf 2009.