Blwyddyn Galw: 1994
Clerc: Nigel East
Mae Matthew yn arbenigo mewn cyfraith troseddol, yn cynnwys erlyn ac amddiffyn, â phwyslais penodol ar faterion troseddau rhywiol a thwyll cymhleth. Mae'n Erlynydd y Goron gradd 4 ac mae ar y panel o eiriolwyr cymeradwy ar gyfer erlyn achosion o dreisio
Mae Matthew yn fargyfreithiwr gweithgar ac ymroddedig, ac mae’n aelod o Gymdeithas y Bar ar Drosedd a Chylchdaith Cymru a Chaer. Mae rhai o’i achosion diweddar yn cynnwys amddiffyn y prif amddiffynydd yn yr achos mwyaf yn ymwneud â dillad ffug yng Nghymru. Fe wnaeth hefyd amddiffyn mewn achos difrifol o drais rhywiol oedd â sawl achwynydd, ac a oedd yn ymwneud â materion cymhleth datgeliad a chamddefnydd o broses. Cafodd yr achos sylw sylweddol yn y cyfryngau cenedlaethol.
Addysgwyd Matthew yn Ysgol Ramadeg Bechgyn Ysgol Uwchradd Devenport, ac yna astudiodd ym Mhrifysgol Caerdydd, Ysgol y Gyfraith Ysbytai’r Brawdlys a Phrifysgol Bryste.