Blwyddyn Galw: 1998
Clerc: James Watson / Lee Fifield
Mae Lisa’n ymarferydd teulu profiedig sy’n ymgymryd ag achosion sy’n cynnwys pob agwedd o gyfraith teulu.
Mae’n cael ei chyfarwyddo’n rheolaidd gan awdurdodau lleol, gwarcheidwaid a rhieni plant mewn achosion y Ddeddf Plant sy’n cynnwys honiadau o lofruddiaeth , cam-drin rhywiol ac anafiadau nad ydynt yn ddamweiniol. Mae’n ymddangos yn aml heb arweinydd mewn achosion ble cynrychiolir un neu fwy o’r partïon gan sidanwyr.
Mae Lisa hefyd yn ymgymryd â llareiddiad ategol ac achosion Atodlen 1 y Ddeddf Plant.
Mae wedi ymddangos yn y Llys Apêl, yr Uchel Lys a’r Llys Sirol. Mae achosion nodedig yn cynnwys A (Plentyn) [2008] EWCA Civ 650 a Re A (Asesiad Preswyl) [2009] 2 FLR 443. Fe’i cymeradwyir fel ymarferydd teulu blaenllaw ar Gylchdaith Cymru a Chaer yn Y 500 Cyfreithiol 2011.
Cafodd Lisa ei haddysgu yn Ysgol Howell, Llandaf cyn mynd i Brifysgol Caerdydd ac yna i Ysgol Gyfraith yr Inns of Court yn Llundain.