Blwyddyn Galw: 1996
Clerc: Nigel East
Fel aelod o Gymdeithas y Bar ar Drosedd, mae Heath yn arbenigwr ar drosedd sydd ag arbenigedd penodol o ran amddiffyn ac erlyn achosion sylweddol yn ymwneud â throseddau cyffuriau â choler wen, ynghyd â’r achosion atal ac atafaelu cysylltiedig.
Yn ystod blynyddoedd diweddar, mae Heath wedi amddiffyn mewn achosion o dwyll yn y GIG ac wedi erlyn ar ran yr Adran Trosedd Gyfundrefnol mewn cysylltiad â’r Asiantaeth Troseddau Cyfundrefnol Difrifol (SOCA) ac Uned Gwaith Achos Arbennig Gwasanaeth Erlyn y Goron. Mae o hefyd wedi gweithio gyda'r Uned Atafaelu (Gwasanaeth Erlyn y Goron) a’r Tîm Adennill Asedau Rhanbarthol (RART). Mae'n Erlynydd y Goron gradd 4 ac mae ar y panel o eiriolwyr cymeradwy ar gyfer erlyn achosion o dreisio.
Mae achosion mwyaf nodedig Heath yn cynnwys tri erlyniad amlwg o fasnachwyr cyffuriau ac achosion atafaelu cysylltiedig a arweiniodd ar gollfarnu dros 100 o ddifinyddion. Mae o hefyd wedi amddiffyn mewn achosion o dwyll morgais, lladrad arfog ac achos o drais rhywiol yn ymwneud ag achwynydd mud a byddar.
Addysgwyd Heath ym Mhrifysgol Warwick ac Ysgol y Gyfraith Ysbytai’r Brawdlys, a chaiff ei gymeradwyo am ei arbenigedd ym maes twyll. Mae ganddo enw da am fod yn adfocad egnïol, ymroddedig a llawn perswâd, a all adeiladu perthynas dda â chleientiaid yn gyflym. Mae’n adfocad graddedig categori pedwar Gwasanaeth Erlyn y Goron, ac yn ymgynghorydd annibynnol i Banel Craffu Trosedd Casineb De Cymru.