Blwyddyn Galw: 1989
Clerc: James Watson / Lee Fifield
Aelod o Gymdeithas Cyfraith Teulu’r Bar
Bydd Emily’n ymgymryd ag achosion sy’n ymwneud â phob agwedd o gyfraith teulu.
Mae Emily’n ymarferydd cyfraith teulu profiadol. Mae ganddi brofiad a gwybodaeth o’r holl sbectrwm o achosion cyfraith gyhoeddus, ac mae ei gwaith preifat yn cwmpasu plant, cyllid a llareiddiad ategol.
Caiff ei chyfarwyddo’n rheolaidd gan Awdurdodau Lleol, rhieni a Gwarcheidwaid plant, ac mae hi wedi delio â nifer o achosion dyrys a chymhleth dros y blynyddoedd, yn cynnwys honiadau o lofruddiaeth, cam-drin rhywiol ac anafiadau annamweiniol.
Mae gan Emily wreiddiau Cymreig cryf, a mynychodd Ysgol Gyfun Y Faenor a Phenderyn a Phrifysgol Aberystwyth, a dechreuodd ei gwaith fel bargyfreithiwr yn Siambr Angel yn Abertawe, wedi iddi ymgymhwyso yn y Cyngor Addysg Gyfreithiol yn Llundain. Yr oedd Emily yn aelod gynrychiolydd o Bwyllgor Gibbs Ysbyty Grays.
Mae Emily’n aelod o 9 Park Place ers 2001.