Blwyddyn Galw: 1994
Clerc: James Watson / Lee Fifield
Mae Christina yn fargyfreithiwr profiadol sy'n arbenigo mewn cyfraith teulu. Gynt yn fargyfreithiwr a gyflogir gyda dau awdurdod lleol, lle bu'n uwch gyfreithiwr yn eu timau gofal plant, dychwelodd i'r bar annibynnol yn 2002.
Gyda dull personol a thrylwyr, mae Christina yn ymarfer mewn cyfraith gyhoeddus sy’n berthnasol â phlant, yn gweithredu ar gyfer rhieni, awdurdodau lleol ac ar gyfer plant. Mae hi wedi ymdrin a llawer o achosion cymhleth gan gynnwys materion o anaf annamweiniol a cham-drin rhywiol yn llwyddiannus.
Astudiodd Christina’r Gyfraith ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth a graddiodd yn 1992 aeth ymlaen i gwblhau ei diploma ôl-radd yn y gyfraith a’r Cwrs Galwedigaethol y Bar yn Ysgol y Gyfraith Inns of Court yn 1993.
Fel Mam i bedwar o blant ifanc, gan gynnwys tripledi, mae Christina yn agos atoch a chleientiaid yn canmol ei gallu i gyfleu materion cymhleth mewn ffordd syml