Ymddeoliad Mr Winston Roddick CB CF

10 TACHWEDD 2020

Ymddeoliad Mr Winston Roddick CB CF

Mae Siambrau yn drist i gyhoeddi ymddeoliad Mr Winston Roddick CB CF o'i yrfa fel bargyfriethiwr. Daeth Winston yn aelod o Siambrau (34 Park Place ar y pryd) yn 1970. Cymerodd ‘sidan’ yn 1985 ar ôl cyfnod byr iawn fel ‘junior’.  Ar wahân i'w gyfnod fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, bu Winston yn aelod o siambrau, ac yn gydweithiwr a ffrind gwerthfawr, am hanner can mlynedd. Wrth i’w yrfa wirioneddol ddisglair (a wnaeth gynnwys ei dymor fel Cwnsler Cyffredinol cyntaf Cymru) ddod i ben, dymunwn iddo a’i wraig, Cennin, bob rhwyddineb yn y dyfofol.