Siambrau 9 Plas y Parc yn Cyhoeddi Penodiad Uwch Glerc Newydd

07 RHAGFYR 2011

Fe wnaeth dros 40 o gyfreithwyr fynychu ein seminar achrededig CPD ddiweddaraf a oedd yn ymwneud â chyfrifo buddiannau llesiannol mewn eiddo, lle cedwir yr hawl cyfreithlon i’r eiddo ar y cyd yn enw cwpl di-briod. Cynhaliwyd y digwyddiad llwyddiannus hwn yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 30 Tachwedd 2011, ac fe eglurodd effaith achos Jones v Kernott [2011], penderfyniad pwysig newydd y Llys Goruchaf yn ymwneud â hawl llesiannol i gartref teulu o dan ymddiriedolaeth adeiladol.

Mae digwyddiadau hefyd wedi cael eu cynnal ar y cyd â Grant Thornton ar faterion treth enillion cyfalaf a phrisio cwmnïau preifat.

I gael rhagor o wybodaeth neu i gofrestru ar gyfer digwyddiadau i ddod yn ystod 2012 cliciwch yma neu ffoniwch ein tîm clercio ar 029 2038 2731.”