Siambrau 9 Plas y Parc yn Cyhoeddi Penodiad Uwch Glerc Newydd

17 TACHWEDD 2011

Mae Siambrau 9 Plas y Parc wedi cyhoeddi penodiad Michael Lieberman fel yr uwch glerc newydd a benodwyd yn lle Jim William, a fydd yn ymddeol eleni.

Mae Mr Lieberman yn aelod o Sefydliad Clercod Bargyfreithwyr ac yn gyfryngwr sifil a masnachol achrededig, ac fe gychwynnodd ei yrfa yn 1990 fel clerc yn Siambrau 3 Sgwâr Grays Inn, bellach 33 Bedford Row, cyn cael ei benodi’n uwch glerc yn 1997. Mae o hefyd wedi treulio rhan o’i yrfa yn gweithio i Price Waterhouse Coopers a Phrifysgol Caergrawnt.

Mae profiad Mr Lieberman yn cynnwys mentora perfformiad staff, rheoli cyllidebau a chyswllt â chleientiaid. Mae’n gyfarwydd â Chod Ymddygiad y Bar, trefniadau cwyno a disgyblu, cod cydraddoldeb ac amrywiaeth y Bar, y Ddeddf Cydraddoldebau a’r fframwaith o sefydliadau cyfreithiol y mae’r Bar yn gweithredu ynddo.

Gan gyfeirio at y penodiad, dywedodd Gregg Taylor Q.C, Pennaeth Siambrau 9 Plas y Parc: “Mae Michael yn uwch glerc bargyfreithwyr â 15 mlynedd o brofiad o arwain perfformiad llwyddiannus Siambrau Bargyfreithwyr yn Llundain. Mae ganddo ddealltwriaeth drylwyr o’n marchnad, ac mae’n gyfarwydd â dynameg amgylchedd grŵp sydd â sawl practis. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd yn gaffaeliad go iawn i’n Siambrau, wrth i ni geisio parhau i ehangu ein portffolio, ynghyd â’n proffil ar gylchdaith Cymru a Chaer.”

Ychwanegodd Mr Lieberman: “Mae 9 Plas y Parc yn bractis sydd wedi ennill ei blwyf ac â phresenoldeb amlwg yn y farchnad. Caiff aelodau eu ffefrio a’u dewis yn rheolaidd i fod yn gwnsler gan cwmnïau cyfreithwyr ac awdurdodau lleol fel ei gilydd, ac maent wedi ymgymryd â llawer o’r achosion amlycaf ym meysydd cyfraith trosedd, teulu, sifil a chyflogaeth. Edrychaf ymlaen at gydweithio â’r tîm i sicrhau parhad mewn darpariaeth gwasanaeth o ansawdd uchel a chyson yn gyffredinol, gan gynnig cyngor cyfreithiol ac adfocatiaeth sydd ymhlith y gorau sydd ar gael.”

Mae 9 Plas y Parc yn un o siambrau bargyfreithwyr arweiniol Cymru, sy’n arbenigo ym meysydd cyfraith fasnachol, trosedd, cyflogaeth, teulu, gweinyddol, rheoleiddio a siawnsri.