Cwynion

Byddir yn deilio ag unrhyw gwynion am ansawdd y gwasanaeth a geir gan yr aelodau neu'r staff ategol yn unol â threfn benodol. Cliciwch yma i gael manylion y drefn hon.

Dylech ganiatáu o leiaf 8 wythnos i ni ddatrys eich cwyn. Fodd bynnag, os bydd y cyfnod hwn wedi dod i ben a'ch cwyn heb gael ei ddatrys yn unol â'ch disgwyliadau, gallwch gyfeirio'r mater at Ombwdsmon y Gyfraith.

Dylid cyfeirio materion at Ombwdsmon y Gyfraith cyn gynted ag y bo modd, ond ym mhob achos, o fewn blwyddyn o'r adeg y gwnaethoch sylweddoli fod achos o bryder, ac o fewn 6 mis o'ch cyswllt diwethaf â ni.

Cyfeiriad gwefan Ombwdsmon y Gyfraith yw www.legalombudsman.org.uk. Gellir ei ffonio ar 0300 555 0333 (neu o dramor ar +44 121 245 3050, gellir e-bostio enquiries@legalombudsman.org.uk neu gellir anfon gohebiaeth at Blwch Post 15870, Birmingham, B39 9EB.