Blwyddyn galw: 1968
Blwyddyn Sidan: 1986
Clerc: Michael Lieberman
Yn brofiedig iawn ac yn rhywun y mae mawr alw amdano, mae Winston yn arbenigo mewn cyfraith gyhoeddus a chyfraith droseddol gan ganolbwyntio’n arbennig ar gyfraith gyfansoddiadol, a Llywodraeth ddatganoledig a chanolog. Hefyd mae’n trafod ymholiadau cyhoeddus ac achosion landlord a thenant.
Yn Gofiadur i Lys y Goron, ac yn Gofiadur Anrhydeddus i Gaernarfon, Winston oedd y Cwnsler Cyffredinol cyntaf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac roedd yn arweinydd Cylchdaith Cymru a Chaer o 2007 i 2010. Mae’n Gymro Cymraeg rhugl ac mae wedi ymgymryd â nifer o achosion yn y Gymraeg.
Mae rhai o achosion diweddaraf Winston yn cynnwys gweithredu dros yr ymgeisydd llwyddiannus am adolygiad barnwrol ynghylch penderfyniad Cyngor Sir ar y sail bod y penderfynwr yn rhagfarnllyd, ac yn gweithredu dros Gyngor Sir ynghylch ei ddeiseb i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Weithdrefn Arbennig y Cynulliad. Hefyd trafododd erlyniad Terrry Andrews yn achos llofruddiaeth Bethan Callaghan.
Addysgwyd Winston yn Ysgol Syr Huw Owen yng Nghaernarfon ac yna astudiodd yng Ngholeg y Brifysgol, Llundain.

