Blwyddyn galw: 2001
Clerc: Nigel East
Yn aelod o Gymdeithas Droseddol y Bar, mae Suzanne yn arbenigo mewn troseddau cyffredinol yn cynnwys troseddau rhywiol, breinryddid er lles y cyhoedd a chyfraith carchar. Hefyd mae’n trafod erlyniadau o dan y Ddeddf Cwmnïau.
Mae gan Suzanne agwedd gadarn ond sensitif sy’n ei gwneud yn ffefryn sicr ar gyfer achosion yn ymwneud â phobl ifainc a phobl hyglwyf. Mae ei hachosion diweddaraf yn cynnwys achos dywededig R v Sheppard 2008 y cyhoeddodd y Llys Apêl ganllawiau ynddo ynghylch toriadau ar orchmynion dedfrydau gohiriedig ac R v Penelope Webber 2009 a oedd yn ymwneud â chamdrin dau glaf gorffwylltra oedrannus gan nyrs. Hefyd erlynodd Suzanne ddau ddiffynnydd yn llwyddiannus oherwydd iddynt ymosod yn rhywiol ar eu merched a’u cyfnitherod (R v Edwards 2011).
Hefyd mae ganddi brofiad mewn trafod pob math o gais ynghylch y Ddeddf Elw Troseddau ac mae wedi ymgymryd â swm arwyddocaol o waith mewn cysylltiad ag erlyniadau o dan y Ddeddf Cwmnïau. Hefyd mae gan Suzanne brofiad o ddelio â gwrandawiadau prawf.
Wedi’i haddysgu ym Mhrifysgol Caerdydd, ennillodd Suzanne wobr Cylchdaith Cymru a Chaer ar gyfer myfyrwyr rhagorol a’r wobr am y perfformiad gorau mewn ymgyfreitha a thystiolaeth droseddol 2000 -2001.

