Sian Parry

Sian Parry

Blwyddyn Galw i’r Bar: 1994
Clerc: Lesley Haikney

Mae gan Sian bractis cyfraith teulu sefydledig, ac mae’n arbenigo mewn materion gofal, llareiddiad ategol, a chyfraith breifat.

Caiff Sian ei pharchu am ei gallu i gynnig cyngor realistig, pragmatig a dibynadwy, ac mae hi wedi ymgymryd â sawl achos cymhleth, yn cynnwys mabwysiadu a gorchmynion gwarcheidwaeth. Yn Re M-J (Gorchymyn Mabwysiadu neu Orchymyn Gwarcheidwaeth Arbennig), fe ymddangosodd ar ran yr awdurdod lleol a’r trydydd ymatebydd, un o dri achos cysylltiedig, yn y Llys Apêl pan ddehonglodd y llys egwyddorion gwarcheidwaeth arbennig yn hytrach na mabwysiadu teuluol.

Yn S v B & Cyngor Dinas Casnewydd 2007, fe ymddangosodd Sian ar ran yr awdurdod lleol yn yr Adran Teuluoedd, ble ystyriodd Hedley J. egwyddorion gwarcheidwaeth arbennig mewn cyferbyniad â mabwysiadu teuluol.

Addysgwyd Sian yn Ysgol Uwchradd Brynteg, Pen-y-bont ar Ogwr, ac yna astudiodd ym Mhrifysgol Cymru, Coleg Caerdydd, ac Ysgol y Gyfraith Ysbytai’r Brawdlys.