Roger Thomas C.F.

Roger Thomas C.F.

Blwyddyn Galw i'r Bar: 1969
Blwyddyn Dyrchafu'n Sidanwr: 1994
Clerc: Michael Lieberman

Mae Roger yn Gwnsler profiadol sy'n arbenigo mewn trosedd, ac fe'i disgrifir gan Chambers UK fel “ffefryn a phleser go iawn i ddelio ag o”.

Fel aelod o Gymdeithas y Bar ar Drosedd, mae Roger bellach yn arbenigo mewn llofruddiaethau, twyll TAW a ‘charwsél’, gwyngalchu arian, y fasnach mewn pobl a mewnforio a chyflenwi cyffuriau. Mae ganddo bractis sefydledig mewn achosion troseddol amlwg sy'n cynnwys achos R v Santokh Mizzar yn 2010/11 am gamfanteisio economaidd trwy gyfrwng masnachu mewn pobl. Fe wnaeth hefyd ymgymryd ag achos llofruddiaethR v Declan Morrisey yn 2009, oedd yn ywneud â llofruddiaeth a lladrad arfog mewn Swyddfa Bost.

Mae achosion nodedig eraill yn cynnwysR v Owen Crookes, llofruddiaeth tir gwylliaid wedi'i gynllunio a R v Alden and Wright, un o gyfres o erlyniadau yn deillio o ymchwiliad cam-drin plant Operation Goldfinch. Mae Roger hefyd wedi ymgymryd ag achosion o lofruddiaeth fampir, llofruddiaeth defodol, herwgipio a thwyll gwyngalchu arian gwerth rhai miliynau o bunnoedd.

Astudiodd Roger ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, ac mae'n gofiadur ar Gylchdaith Cymru a Chaer ers 1987.