Blwyddyn galw: 2000
Clerc: Michael Lieberman
Mae Robert yn ymarferydd sifil ac mae’n canolbwyntio’n arbennig ar gyfraith gyflogaeth yn cynnwys diswyddo annheg, gwahaniaethu,TUPE, dileu swyddi a hawliadau ynghylch torri contract. Mae’n aelod o Gymdeithas Cyfraith Cyflogaeth y Bar.
Mae gwaith Robert hefyd yn cynnwys anafiadau personol, siawnsri a materion landlord a thenant yn cynnwys hawliadau am feddiant, gorchmynion diraddiad a gwaharddebau ymddygiad gwrth-gymdeithasol.
Mae rhai o achosion nodedig diweddaraf Robert yn cynnwys tribiwnlys cyflogaeth o saith niwrnod yn gweithredu ar ran hawliwr a oedd yn honni colled a diswyddo annheg deongliadol ac achos o bedwar diwrnod dros Gyngor a oedd yn gwrthapelio gan amddiffyn yn erbyn hawliadau o ddiswyddo annheg, golled a gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol.
Mae gwaith siawnsri Robert yn cynnwys cynrychioli diffynyddion mewn dau anghydfod ffiniau tymor hir yn ymwneud â phroblemau ynghylch hawliau tramwy a meddiant gwrthgefn.
Yn enwog am ei agwedd bragmatig ac am ymladd yn galed dros ei gleientiaid, cymeradwyir Robert yn y 500 Cyfreithiol am “gynhyrchu gwaith papur rhagorol ac am baratoi’n drwyadl”.
Astudiodd Robert ym Mhrifysgol Caerdydd a derbyniodd Ysgoloriaeth Hardwicke, Wobr Buchanan ac Ysgoloriaeth Cholmondeley yn Lincoln’s Inn. Mae’n ymgymryd ag ychydig o waith cytundeb ffi amodol ble mae’n briodol.
