Blwyddyn Galw i’r Bar: 1993
Clerc: Michael Lieberman
Mae Richard yn fargyfreithiwr profiadol dros ben sy’n arbenigo mewn siawnsri ac achosion masnach, cyflogaeth ac anafiadau personol.
Mae Richard yn aelod o Gymdeithas Anafiadau Personol y Bar a Chymdeithas Cyfraith Teulu y Bar. Mae o hefyd yn aelod o Banel Cyflogaeth a Gwaith Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac ef yw’r pennaeth practis cyflogaeth yn Siambrau 9 Plas y Parc.
Disgrifir Richard fel rhywun sydd â phresenoldeb mawr mewn llys. Yn sicr, gall ddadansoddi a dirnad achosion cymhleth yn gyflym, ac mae ganddo wybodaeth ymarferol benigamp o’r gyfraith a’i gweithdrefnau.
Addysgwyd Richard yn Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf a Choleg Balliol, Rhydychen, ac yna, astudiodd yn Ysgol y Gyfraith Ysbytai’r Brawdlys.
