Blwyddyn galw: 1974
Clerc: Michael Lieberman a Lesley Haikney
Mae Richard yn arbenigo mewn cyfraith deulu ac mae’n gyfryngwr profiedig ynghylch delio ag ystod eang o achosion cyfryngu.
Wedi’i alw gan Gray’s Inn yn 1974, mae Richard yn aelod o Gymdeithas Cyfraith Teulu’r Bar, Gymdeithas Cyfryngwyr y Teulu, Cyngor Cyfryngu’r Teulu a’r Grŵp ADR. Tan yn ddiweddar, roedd hefyd yn aelod etholedig o Fwrdd Cymdeithas Cyfryngwyr y Teulu ac yn Gyfarwyddwr ohono.
Mae Richard yn arbenigo mewn cyfryngu teulu ac ADR yn arbennig mewn cysylltiad ag achosion eiddo ac achosion ariannol. Mae achosion diweddar wedi cynnwys anghydfodau ynghylch busnesau teulu o werth uchel, bensiynau personol a phroblemau plant sy’n ymwneud â materion preswylio a chysylltu.
Hefyd mae Richard yn gweithio â Mediation Practice Cyfyngedig. Yn seiliedig yn Siambrau 9 Plas y Parc, mae’r cwmni’n darparu cymorth cyfreithiol ymhob achos o gyfryngu teulu ac mae’n cynnig yr unig wasanaeth cyfryngu ar gyfer cleientiaid a ariannir yn breifat neu’n gyhoeddus yng Ngaerdydd. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar www.themediationpractice.ltd.uk.
