Phillip Morris

Phillip Morris

Blwyddyn Galw: 2003
Clerc: Michael Lieberman

Mae Phillip yn aelod o’n tîm sifil, â maes ymarfer sy’n cynnwys cyfraith siawnsri, masnachol, gweinyddol, cyflogaeth a chyffredin.

Mae ei waith yn cwmpasu pob agwedd o gyfraith siawnsri yn cynnwys eiddo, anghydfodau ffiniau a hawliau tramwy mewn llysoedd sifil a mewn Arfarniadau Cofrestrfa Tir EM, a materion ymddiriedolaethau, profiant, a Deddf Treth Etifeddiant. Mae Phillip hefyd yn trafod gwaith cyfraith fasnachol a chyffredin yn cynnwys hawliadau cytundeb, anghydfodau adeiladu, adnewyddiadau tenantiaeth busnes, a materion methdaliad. Mae ei waith anafiadau personol yn cynnwys hawliadau llwybr carlam ac aml-lwybr i hawlwyr a diffynwyr mewn materion fel damweiniau traffig ffordd, yn cynnwys y rheini ble honnir twyll, hawliadau maglu’r ffordd fawr ac achosion o atebolrwydd meddianwyr. Mae’n derbyn gwaith Cytundeb Tâl Amodol mewn achosion priodol.

Hefyd mae Phillip yn cael ei gyfarwyddo’n rheolaidd i drafod achosion cyflogaeth. Mae’n ymddangos ar ran hawlwyr ac atebwyr ill dau yn y Tribiwnlys Cyflogaeth a’r Tribiwnlys Apêl Cyflogaeth. Ym maes cyfraith weinyddol, mae ei waith yn cynnwys materion adolygiad barnwrol, anghydfodau cynllunio ac ymholiadau maes y pentref.

Ym maes cyfraith weinyddol, mae ei waith yn cynnwys materion adolygiad barnwrol sy'n gweithredu ar gyfer hawlwyr a diffynyddion, anghydfodau cynllunio ac ymholiadau maes y pentref, lle y mae wedi gweithredu ar ran ymgeiswyr a gwrthwynebwyr.

Mae rhai o'r achosion nodedig mwyaf diweddar Phillip yn cynnwys ymchwiliad maes y pentref tri diwrnod yn ymwneud â thir oedd yn eiddo i wrthwynebydd preifat (2012); achosion atal gwaharddeb sy'n ymwneud gyda pennaeth ysgol gynradd (2012); ymddangos ar ran awdurdod lleol yn amddiffyn her i bolisi trwyddedu ei yrwyr tacsis '(2012); apelio llwyddiannus i'r Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth ar gamgymeriad o ddeddfwriaeth a wneir gan y tribiwnlys isod (2012); Mae rhai o achosion nodedig diweddaraf Phillip yn cynnwys cael ei gyfarwyddo fel Cwnsler Iau mewn achos adolygiad barnwrol ynglŷn â chau ysgol gynradd (2011) ac ymddangos ar ran pedwar diffynydd mewn gwrandawiad pum-niwrnod dros faterion ffiniau a hawl tramwy (2011). Hefyd cafodd ei gyfarwyddo mewn hawliad damwain aml-barti’n cynnwys iawndal a oedd yn fwy na £150,000 (2011 ac yn gyfredol) a gwrthwynebodd apêl yn llwyddiannus yn y Llys Apêl yn erbyn gwneud gorchymyn ataliedig ildio meddiant mewn cysylltiad â safle preswyl (2008). Hefyd trafododd hawliad esgeuluster proffesiynol yn erbyn cyfreithiwr oherwydd iddo fethu hysbysu cleient am rybudd dros dŷ, yn cynnwys dadlau’n llwyddiannus dros bwynt cyfyngu. (2011).

Mae Phillip yn aelod o Gymdeithas Cyfraith Fasnachol Cymru. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Dyffryn Aman cyn symud ymlaen i astudio yng Ngholeg Iesu, Rhydychen a Phrifysgol Caerdydd. Mae’n gallu sgwrsio yn y Gymraeg.