Matthew Cobbe

Matthew Cobbe

Blwyddyn Galw: 1998
Clerc: Nigel East

Mae Matthew yn fargyfreithiwr profiadol sy’n arbenigo ymhob agwedd o waith troseddol.

Yn rhifyn 2011 o The Legal 500, caiff Matthew ei argymell fel ymarferwr blaenllaw ar y gylchdaith yn sgil ei bractis troseddol amrywiol. Bydd yn Matthew yn cynrychioli’r amddiffyniad a’r erlyniad fel ei gilydd, ac mae ganddo brofiad o amlwg a sensitif. Mae ei achosion nodedig diweddar yn cynnwys R v Terrell (2008) 2 CR App R (s) 49 CA pan oedd y llys “…yn neilltuol o ystyriol o orchmynion atal troseddau rhyw ac asesu perygl ond gwnaed y pwynt holl-bwysig o weithrediad cyffredinol y dylai dedfrydwr ystyried yr holl ddewisiadau dedfrydu wrth asesu perygl yn y dyfodol, a holi a fyddai unrhyw un ohonynt yn ddigon i fynd i’r afael â pherygl y troseddwr, sef nad yw meini prawf perygl yn cael eu diwallu.” per Archbold 2011 5-306b

Yn R v Howell, llwyddodd Matthew i erlyn amddiffynydd oedd wedi dwyn rhai cannoedd o filoedd o bunnoedd oddi wrth ei chyflogwr dros nifer o flynyddoedd. Yn R v J a K bu’n llwyddiannus wrth gynrychioli glaslanc a gyhuddwyd ar y cyd â glaslanc arall o dreisio achwynydd yn ei harddegau. Yn R v Halai llwyddodd Matthew i erlyn postfeistr oedd wedi dwyn dros £80,000 o’r Swyddfa Bost, trwy lwyfannu lladrad ffug gyda’i gyd-droseddwr.

Mae Mathew yn Erlynydd y Goron gradd 4  ac mae ar y panel o eiriolwyr cymeradwy ar gyfer erlyn achosion o dreisio. Mae Matthew yn siarad Cymraeg yn rhugl, a gall ymgymryd ag achosion trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n aelod o Gymdeithas y Bar ar Drosedd.

Addysgwyd Matthew yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, ac yna astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Caerwysg, troseddeg a chyfiawnder troseddol ym Mhrifysgol Caerdydd, a Chwrs Galwedigaethol y Bar yn Ysgol y Gyfraith Ysbyty’r Brawdlys.