Kayleigh Simmons

Kayleigh Simmons

Blwyddyn Galw: 2009
Clerc: James Watson

Mae Kayleigh’n brofiedig mewn materion sy’n cynnwys gwaith cyfraith deulu, sifil, gyflogaeth a throseddol.

 sgiliau adfocatiaeth hyderus a barn gadarn, mae Kayleigh’n trafod pob agwedd ar gyfraith deulu gan gynnwys achosion plant preifat a chyhoeddus, gwaharddebau preifat ac achosion o lareiddiad ategol. Hefyd mae’n delio â materion cyfraith gyffredin yn cynnwys camweddau, anafiadau personol, anghydfodau contractiol a materion landlord a thenant/tai. Mae ei phrofiad masnachol yn cynnwys methdaliad, morgeisi a chyfraith dir. Hefyd mae’n derbyn cyfarwyddiadau am waith rheoleiddiol a throseddol.

Yn brofiedig mewn gweithredu ar ran hawlwyr a gwrthapelwyr ill dau, mae Kayleigh’n trafod yr ystod lawn o faterion cyflogaeth yn cynnwys hawliadau diswyddo annheg, dileu swyddi, erledigaeth a gwahaniaethu.

Addysgwyd Kayleigh yn Ysgol Gyfun Abertyleri ac yng Nholeg Gwent cyn mynychu Prifysgol Caerdydd ble ennillodd radd anrhydedd dosbarth 1af yn y gyfraith (LLB). Hefyd ennillodd Wobr Phillip E.Phillips ar gyfer Cyfraith Ymddiriedolaethau (2007) a Gwobr Ymddiriedolaeth Addysgol Alan a Cyril Body (2007). Yna cafodd Kayleigh ei hasesu fel “Rhagorol” ar Gwrs Galwedigaethol y Bar yng Nghaerdydd ble mynychodd fel Ysgolor Bedingfield Gray’s Inn (2009).