Blwyddyn Galw i'r Bar: 2005
Clerc: Michael Lieberman
Mae Justin yn ymarferwr sifil, ac mae ei bractis yn canolbwyntio ar gyfraith gwlad ac anghydfodau cyffredin.
Bydd yn cynghori, drafftio plediadau ac yn cynrychioli partïon mewn achosion yn ymwneud ag anafiadau personol, anghydfodau yn ymwneud â hawliau a diddordebau dros ac ar dir, pob math o anghydfodau o ran cytundebau a chamweddau, ansolfedd personol a chorfforaethol, y Ddeddf Cwmnïau a materion partneriaethau, ac anghydfodau landlord a thenant.
O ran hawliadau a drosir gan yswirwyr, mae gan Justin brofiad o gynghori a gweithredu mewn achosion yn ymwneud â chytundebau llogi a thrwsio cerbydau ac anghydfodau yn ymwneud â phrawf o gostau atgyweiriadau. Bydd yn arwain ei achosion ei hun mewn llysoedd sirol ac yn yr Uchel Lys ac yn y Llys Gweinyddol yng Nghaerdydd. Bydd Justin hefyd yn gweithredu ar ran hawlwyr ac ymatebwyr mewn tribiwnlysoedd cyflogaeth, mewn achosion yn ymwneud â diswyddo deongliadol ac annheg, a Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) a chwythu'r chwiban.
Mae ei waith diweddar wedi cynnwys cynrychioli unigolion preifat a hawlwyr masnachol yn yr Uchel Lys oedd yn hawlio rhyddhad gwaharddol interim a therfynol yn deillio o ymyrraeth anghyfreithlon â hawliau tramgwydd, a hawddfreintiau dros ac ar dir a thresmasu ar dir. Yn ddiweddar, mae Justin wedi gweithredu ar ran hawlwyr mewn anghydfodau masnachol yn ymwneud ag adfer nwyddau gwerthfawr a'r mater o gadw cymalau teitl, yn cynnwys achosion sydd wedi'u cymhlethu gan ansolfedd personol neu gorfforaethol.
Yn ogystal â'i bractis sifil, caiff Justin ei gyfarwyddo'n rheolaidd mewn ystod helaeth o achosion rheolaethol a gorfodaeth mewn llysoedd ynadon ac yn Llys y Goron.
Bydd Justin yn derbyn cyfarwyddiadau ar sail cytundeb ffi amodol neu fesul achos, a chynigir hynny yn unol â thelerau safonol PIBA neu ChBA.

