Joseph Edwards

Joseph Edwards

Blwyddyn Galw: 2011
Clerc: Michael Lieberman

Ymunodd Joseph gyda’r siambrau ar ôl cwblhau tymor prawf llwyddiannus. Mae’n derbyn cyfarwyddiadau ym mhob un o feysydd practis y siambrau.

Mae Joseph wedi cael cyfranogiad sylweddol mewn ystod eang o faterion sifil a chyflogaeth gyda phrofiad penodol yn y llysoedd sirol, lle mae'n ymddangos yn rheolaidd mewn achosion sy'n cynnwys eiddo real, contract ac anaf personol. Ymddangosodd hefyd yn yr Uchel Lys ar ran banc i wrthwynebu cais am ganiatâd i apelio yn erbyn gorchymyn ildio meddiant morgais a wnaed dros dir datblygu.

Mae ei bractis teulu yn cynnwys gweithio gyda rhieni mewn anghydfodau cysylltiad a phreswylio, yn ogystal â phrofiad o weithio gyda cyfreithwyr Gwasanaethau Plant  yn ymgyfreitha ar achosion gofal a llareiddiad ategol.

Mae Joseph wedi ymddangos yn rheolaidd yn y llysoedd ynadon yn gweithredu ar ran diffynyddion a'r GEG yn ogystal ag ymddangos ar gyfer awdurdodau lleol mewn amrywiaeth o erlyniadau rheoleiddio.

Cafodd Joseph ei addysg yn Ysgol Gyfun Carleon. Astudiodd Athroniaeth ac Economeg yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, cyn troi at y Gyfraith yn Brookes, Rhydychen. Yn Ysgolor Astbury a Diplock y Deml Ganol, astudiodd am ei arholiadau bar yn Ysgol y Gyfraith Kaplan, Llundain.

Roedd Joseph yn ddisgybl i Emyr Jones, Christopher Felstead a Lisa Thomas.