Blwyddyn Galw i’r Bar: 1974
Clerc: Michael Lieberman
Mae Jeffrey yn fargyfreithiwr profiadol iawn sy’n rhan o’r tîm cyfraith sifil. Mae’n arbenigo mewn costau ac esgeulustod proffesiynol cyfreithwyr; ansolfedd; eiddo real (yn cynnwys landlord a thenant); achosion siawnsri a masnachol; a chyfraith weinyddol, yn enwedig cynllunio.
Jeffrey yw Cwnsler Eiddo Real Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac mae’n aelod o Gymdeithas y Bar ar Siawnsri a Chylchdaith Cymru a Chaer. Mae hefyd yn gyfreithiwr sydd wedi’i gofrestru â’r Gymdeithas Pêl-droed.
Mae rhai o achosion nodedig diweddaraf Jeffrey yn cynnwys Sommer (2009 – Yr Uchel Lys, Adran Siawnsri), dilyniant i Sweet v Sommer ([2004] 4 All E R 288; [2005] 2 AER 64 CA), ble’r oedd ei gleientiaid yn hawlio costau iawndal gan amddiffynydd oedd yn berchen ar dri eiddo sylweddol pan gafodd ei siwio, ond oedd bellach yn honi nad oedd ganddo’r un geiniog i’w enw. Trwy wneud cais yn uniongyrchol o dan s423 Deddf Ansolfedd 1986, heb gychwyn achos o fethdaliad, ac felly osgoi penodi ymarferwr ansolfedd, llwyddodd Jeffrey i gael rhan-daliad cynnar a thaliad dros yr eiddo yn eu perchnogaeth newydd.
Yn The Glade, Shirley (2011, Mr L Blohm QC, Arolygwr), llwyddodd Jeffrey i drechu ymgais lleol i atal datblygiad bychan ar dir llain pentref ac yn Robin Hood Recycling Ltd (2011, Llys Cwmnïau), cafodd Jeffrey orchmynion yr Uchel Lys i gael gwared ar ddatodwyr a datgan fod Ymarferwr Ansolfedd Trwyddedig arall oedd yn gweithredu fel datodwr yn gwneud hynny heb awdurdodiad. Dyfarnwyd costau iawndal yn erbyn y datodwyr a’r cwasi-ddatodwr, a gwrthodwyd caniatad pellach iddynt ad-dalu eu hunain o stâd y cwmni.
Yn Manor of Ireby, Ireby Fell (2010, Dyfarnwr Cofrestrfa Tir Ei Mawrhydi), amddiffynodd Jeffrey gofrestriad hawl i Arglwyddiaeth y Faenor â thros 360 cyfair o wastraff maenorol cyfagos. Wedi dadl hanesyddol a chyfreithiol gymhleth a barodd dros bythefnos, cadwodd y cleientiaid y tir er gwaethaf y canfyddiad fod y teitl y faenor wedi’i ddileu yn 1605.
Addysgwyd Jeffrey yn Ysgol Latymer, Edmonton, ac yna cafodd MA mewn Gwyddorau Naturiol ac Anthropoleg Cymdeithasol yng Nghaergrawnt. Aeth i Goleg y Gyfraith a chafodd ei alw i’r bar yn 1974.
Mae Jeffrey wedi’i awdurdodi i dderbyn cyfarwyddiadau o dan reolau Mynediad i’r Cyhoedd.
