Blwyddyn Galw i'r Bar: 1984
Clerc: Nigel East
Addysgwyd Janet yn Ysgol Gyfun Glantaf, ac wedi hynny, astudiodd ym Mhrifysgol Caerdydd ac Ysgol y Gyfraith Ysbytai'r Brawdlys. Ymunodd â Siambrau 9 Plas y Parc yn 1991, ac ers hynny, mae hi wedi arbenigo ymhob agwedd o drosedd.
Mae gan Janet ddiddordeb penodol mewn troseddau twyll, troseddau ariannol, trais (yn cynnwys llofruddiaeth), troseddau rhyw a chreulondeb i blant. Bydd hefyd yn ymgymryd ag achosion blacmel, cyffuriau, lladrad, trefn gyhoeddus a llosgi bwriadol/peryglu bywyd.
Mae Janet yn fargyfreithwraig sydd â sgiliau cyfathrebu rhagorol, a bydd yn arddangos empathi neu agwedd gadarn yn ôl y galw. Mae ganddi enw da am ei pharatoadau manwl iawn a'i dull trylwyr o groesholi. Mae hi'n fedrus iawn ym mhob agwedd o amddiffyn ac erlyn.

