Ieuan Morris

Ieuan Morris

Blwyddyn galw: 1979
Clerc: Nigel East

Fel aelod o Gymdeithas Droseddol y Bar, mae Ieuan yn fargyfreithiwr o barch uchel sy’n arbenigo mewn troseddau difrifol a chyfundrefnol.

Cyn ymuno â Siambrau 9 Plas y Parc, roedd Ieuan yn ddarlithiwr-yn-y-gyfraith llawnamser ym Mhrifysgol Llundain ac yn diwtor mewn cyfraith droseddol ym Mhrifysgol Cymru. Erbyn hyn mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn cam-drin rhywiol a cham-drin plant, dwyll cymhleth, camddefnyddio cyffuriau, trais a llofruddiaeth.

 phrofiad sicr ynghylch dadansoddi materion anodd yn gyflym, mae rhai o achosion nodedig diweddar Ieuan yn cynnwys cynllwynio i gyflenwi cyffuriau rheoledig dosbarth ‘A’ ac ennill collfarn yn llwyddiannus yn erbyn pedoffilydd oherwydd iddo gam-drin plentyn ddwy flwydd oed yn rhywiol ac yn gorfforol. Roedd yr achos yn dibynnu’n gyfangwbl ar dystiolaeth feddygol gan nad oedd achwynydd. Yn Baby S collfarnwyd mam ar dystiolaeth debyg.

Hefyd ymddangosodd Ieuan dros yr Erlyniaeth yn achosion Operation Panama Canal, Dawson (masnachu mewn cyffuriau), ac Operation Firkin, Gilleeney (giang gocên), a ymddangosodd ill dau yn y cyfryngau cenedlaethol ac yng Nghyfraith Droseddol Archbold, gan arwain at ddedfrydau sylweddol i’r rheini a gollfarnwyd.