Helen Roddick

Helen Roddick

Blwyddyn Galw: 2004
Clerc: Michael Lieberman

Mae Helen ar absenoldeb mamolaeth ar hyn o bryd ac nid yw ar gael i gymryd cyfarwyddiadau.

Mae Helen yn fargyfreithiwr profiadol, ac mae ganddi bractis meysydd cyfraith droseddol a chyfraith sifil.

Mae ei phractis rheoliadol wedi cynnwys nifer o erlyniadau Safonau Masnach, yn enwedig ym maes iechyd a lles anifeiliaid. Bydd Helen hefyd yn ymdrin ag achosion wedi’u dwyn gan y DVLA, Tŷ’r Cwmnïau a’r Adran Gwaith a Phensiynau.

Mae gwaith sifil Helen yn cynnwys pob agwedd o gyfraith sifil. Mae ganddi brofiad sylweddol ym meysydd cyfraith landlord, tenant a thai, adolygiadau barnwrol ac ansolfedd. Bydd Helen yn ymgymryd â rhai achosion anafiadau personol ar delerau ffi amodol, ac mae hi hefyd wedi ymgymryd â sawl achos yn y Tribiwnlys Cyflogaeth, gan gynrychioli hawlwyr ac ymatebwyr fel ei gilydd.

Mae ei hachosion nodedig diweddar yn cynnwys cynrychioli’r awdurdod lleol yn yr Uchel Lys fel cwnsler iau mewn adolygiad barnwrol o’r penderfyniad i gau Llysoedd Ynadon lleol. Ymddangosodd Helen ar ran y DVLA yn yr Uchel Lys, yn achos Alun Griffiths (Contractors) Limited v DVLA (2009) EWHC 3132 (Admin) yn ymwneud â’r diffiniad o 'ffordd ' at ddibenion Deddf Treth a Chofrestru Cerbydau 1994.

Mae gan Helen ddull personol a thrylwyr ac mae’n siarad Cymraeg yn rhugl, a bydd yn gweithio’n rheolaidd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Addysgwyd Helen yn Ysgol Uwchradd Caerdydd, ac yna astudiodd Ffrangeg a Sbaeneg ym Mhrifysgol Caerwysg. Cwblhaodd ddiploma uwchraddedig yn y gyfraith a Chwrs Galwedigaethol y Bar ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr.