Gwydion Hughes

Gwydion Hughes

Blwyddyn Galw: 1994
Clerc: Michael Lieberman

Yn Gymro Cymraeg, mae Gwydion yn fargyfreithiwr profiedig sy’n arbenigo mewn cyfraith fasnachol, siawnsri a chyhoeddus.

Ag arbenigedd neilltuol mewn gwaith masnachol, tir, ymddiriedolaethau, profiant ac adolygiad barnwrol, mae llwyth achosion diweddar Gwydion wedi cynnwys cael ei arwain yn y Llys Apêl mewn anghydfod masnachol cymhleth a thymor hir rhwng gwerthwyr ceir ail-law. Hefyd mae wedi treulio llawer o’r flwyddyn yn gweithredu ar ran Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn dyfarniad o flaen Panel Dyfarnu Cymru yng Ngogledd Cymru.

Yn cael ei gymeradwyo’n gyson gan Siambrau a Phartneriaid a’r 500 Cyfreithiol, mae Gwydion yn aelod o banel cwnsleriaid Comisiwn Cynulliad Cymru mewn cysylltiad â gwaith masnachol ac eiddo. Hefyd mae’n Gwnsler Anrhydeddus i Gyngor Llyfrau Cymru.

Mae’n derbyn cyfarwyddiadau o dan Gynllun Mynediad y Cyhoedd Cyngor y Bar ac yn gwneud gwaith Ffi Amodol mewn achosion priodol.

Addysgwyd Gwydion yn Ysgol Uwchradd Llanidloes cyn mynd i astudio’r gyfraith yng Ngholeg y Brifysgol Caerdydd ac i astudio ar gyfer y Bar yn Ysgol y Gyfraith Inns of Court. Mae’n aelod o Gymdeithas Siawnsri’r Bar ac mae’n Drysorydd Cymdeithas Cyfraith Masnach Cymru.