Blwyddyn Galw i’r Bar: 1974
Blwyddyn Dyrchafu’n Sidanwr: 2001
Clerc: Michael Lieberman
Gregg Taylor Q.C. yw Pennaeth Siambrau 9 Plas y Parc ac mae’n arbenigo mewn llofruddiaethau a throseddau difrifol eraill, yn cynnwys dynladdiad, trais rhywiol, mewnforio a chyflenwi cyffuriau, gwyngalchu arian a thwyll difrifol.
Mae llawer o waith Gregg wedi cynnwys achosion amlwg a gafodd sylw sylweddol yn y cyfryngau. Yn 2011, bu’n gyfrifol am achos R v Davies sef llofruddiaeth merch ysgol 15 oed gan ei chyn-gariad 16 mlwydd oed mewn coedwig ger Pen-y-bont ar Ogwr, ynghyd ag R v Freaney, bachgen awtistig 10 oed a laddwyd gan ei fam.
Yr oedd ei achosion nodedig yn ystod 2010 yn cynnwys R v Grabham sef llofruddiaeth putain y gadawyd ei chorff mewn siwtces o dan bont sy’n croesi’r M4, ac R v Clarke, cyfres o achosion o drais rhywiol yn erbyn chwech o fenywod dros gyfnod hir iawn. Yr oedd Gregg hefyd yn gyfrifol am erlyniad Sims Group UK Limited a gyrrwr craen a gyflogwyd gan y cwmni, am ddynlladdiad gyrrwr lorri a wasgwyd i farwolaeth gan fwrn o fetel a ddisgynnodd o domen sgrap yn Nociau Casnewydd.
Mae Gregg yn aelod o Gymdeithas y Bar ar Drosedd, a bydd yn paratoi’n ddiwyd at ei achosion. Mae ganddo enw da rhagorol am ei allu i arwain timau erlyn ac amddiffyn yn effeithiol, a bydd rheithgorau’n gwerthfawrogi ei arddull ymddiddan uniongyrchol a hamddenol.
Addysgwyd Gregg yn Ysgol Ramadeg Glyn Ebwy a Keele. Gall ymddiddan yn y Gymraeg, ac mae wedi ymddangos yn rheolaidd mewn cylchgronau proffesiynol fel “arweinydd yn ei faes”.
