Elizabeth Pearson

Elizabeth Pearson

Blwyddyn Galw: 1999
Clerc: Nigel East

Mae Elizabeth yn fargyfreithwraig uchel ei pharch sy’n arbenigo mewn trosedd, a bydd yn ymgymryd â gwaith ar ran yr erlyniad a diffynyddion.

Mae gan Elizabeth brofiad penodol ym maes troseddau rhywiol difrifol, a bydd ei gwaith yn cynnwys achosion yn ymwneud â phlant neu dystion a difinyddion eraill sy’n agored i niwed. Bydd hefyd yn ymgymryd ag achosion o drais difrifol, cyffuriau, anonestrwydd, elw troseddau a materion rheoleiddio.

Mae achosion nodedig mwyaf diweddar Elizabeth yn cynnwys R v Carey a Carey (2011) sef amddiffyn dyn a gyhuddwyd o gamdriniaeth rywiol difrifol yn erbyn aelodau o’i deulu dros 30 mlynedd. Fe wnaeth hefyd amddiffyn dyn o Lundain a gyhuddwyd o Gynllwynio i Gyflenwi heroin fel rhan o Operation Versailles. Cafodd ei ryddhau wedi i Elizabeth lwyddo i herio priodoldeb trefn adnabod yr heddlu – R v Okunola (2011).

Caiff Elizabeth, sy’n aelod o Gymdeithas y Bar ar Drosedd ac yn Erlynydd Categori 4 Gwasanaeth Erlyn y Goron, ei hargymell yn rheolaidd mewn cyfeirlyfrau cyfreithlon fel arweinydd ym maes troseddau rhywiol, yn cynnwys rhifyn 2012 Chambers and Partners UK. Fe’i disgrifir gan Legal 500 fel cyfreithwraig sy’n ‘arbenigwr ar drin a thrafod achosion o droseddau rhyw’ ac yn ‘dda gyda phlant, yn enwedig plant iau’

Addysgwyd Elizabeth yn Ysgol Uwchradd Stanwell, Penarth, ac yna astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Bryste. Yna, cwblhaodd Gwrs Galwedigaethol y Bar ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr.