David Elias QC

David Elias QC

Blwyddyn Galw: 1994
Clerc: Nigel East

Mae David yn arbenigo ymhob agwedd o drosedd difrifol, a chaiff ei argymell yn ei faes gan Chambers UK.

Mae ganddo brofiad o waith ym maes troseddau rheoliadol hefyd, yn cynnwys achosion yn ymwneud â’r Adran Weithredol Iechyd a Diogelwch ac Asiantaeth yr Amgylchedd, yn ogystal â chynrychioli landlordiaid mewn achosion yn ymwneud â thrwyddedu. Mae'n Erlynydd y Goron gradd 4 ac mae ar y panel o eiriolwyr cymeradwy ar gyfer erlyn achosion o dreisio.

Mae gan David sgiliau croesholi rhagorol, dull eglur ac ystyriol, a bydd yn ymdrin yn dda â’r rheithgor. Mae o wedi datblygu practis cryf ym maes cyfraith droseddol. Mae ei achosion neilltuol diweddar yn cynnwys erlyn John Cooper yn 2011 am bedair llofruddiaeth, yn ogystal â threisio a cheisio dwyn. David oedd y cwnsler iau arweiniol yn yr achos yn Llys y Goron Abertawe, a ddenodd sylw sylweddol yn y cyfryngau.

Mae David hefyd wedi amddiffyn yn nifer o achosion cynllwynio i werthu cyffuriau mwyaf Caerdydd yn ystod blynyddoedd diweddar, a bu’n llwyddiannus wrth amddiffyn David George, perchennog gwesty a erlynwyd am droseddau o dan y Ddeddf Cwmnïau gan yr Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio.

Addysgwyd David yng Ngholeg Malvern, ac yna, astudiodd yng Ngholeg Santes Catherine, Caergrawnt, ac Ysgol y Gyfraith Ysbytai’r Brawdlys. Mae’n aelod o Gymdeithas y Bar ar Drosedd.